top of page

Precarious

with Simon Whitehead

‘Stad o ansicrwydd parhaus, heb ei ddal yn ddiogel neu mewn safle’

- Oxford Dictionary 

 

Neu, cyflwr o fod yn fyw efallai?

 

Gweithdy sydd yn cynnig cyfleuoedd i ni fod gyda’n gilydd yn ein profiadau gwahanol o ansicrwydd, stad gall dreiddio fwyfwy i’n bywydau, ond sydd hefyd yn cysylltu ni fel cymuned. Mae hwn yn siawns i gael eich clywed, i gael symud, cerdded, ysgrifennu/arlunio, nofio, bwyta ac i feithrin ar y cyd, i gofio ein bod ni ddim ar ein ben ein hunain yn ein ansicrwydd ac i ffeindio cefnogaeth yn hyn.

 

Yn preswylio yn Trefacwn, wedi lleoli ar ymyl Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda mynediad i bwll nofio naturiol, sawna, y teml/stiwdio newydd ei adeiladu ‘Ty Sanctaidd’, ynghyd a’r arfordir gwyllt gerllaw. Yma, fyddwn ni’n pwyso i fewn, gan ddarganfod adnoddau a gorffwyso yn weithredol.

'A state of persistent uncertainty, not securely held or in position.’

- Oxford Dictionary

 

Or, a condition for being alive perhaps?

 

A workshop that offers opportunities for us to be together with our different experiences of precariousness, a state that can increasingly permeate our lives, but also connects us as a community. 

This is a chance to be heard, to move, walk, write/draw, swim, eat and collectively nurture, to remember that we are not alone in our uncertainties and to find support in this.

 

In residence at Trefacwn, situated on the edge of the Pembrokeshire Coastal National Park, with access to a natural swimming pool, sauna, the newly built studio/ temple 'Ty Sanctiadd', as well as the wild coast nearby. Here, we will lean in, discover some resources & actively rest

Manylion y Gweithdy

 

Pryd

Dydd Gwener y 4ydd i Ddydd Sul y 6ed o Ebrill

Lle

Trefacwn, Ty Ddewi, Hwllffordd, SA62 6DP

Amlinelliad o’r gweithdy

Mae hwn yn amlinelliad rhydd ar hyn o bryd, bydd y plan dyddiol yn symud rhwng bod a symud tu allan a tu fewn ar draws y dydd, gan rannuprydau a sgyrsiau.

 

Dydd Gwener

Cyrraedd rhwng 3:30 a 5yh, yn barod am bryd o fwyd croesawi. Gobeithiwn ddod â arlwywr lleoll i ddarparu y pryd yma ar eich cyfer.

 

Dydd Sadwrn

Plan gweithdy dyddiol, gyda sesiwn nos dewisol o sawna a pwll naturiol.

 

Dydd Sul

Plan gweithdy dyddiol, gadael oddeutu 3yp

 

​​

​

​

 

Prydau a Bwyd

Mi fydd Groundwork yn darparu y bwyd a’r diodydd ar gyfer brecwast, cinio a swper, gan goginio efo’n gilydd neu ochr yn ochr a’n gilydd trwy’r penwythnos. Eithr y bwyd arlwyo nos wener.

Fodd bynnag, rydym yn annog pobl i ddod ag unrhyw beth penodol sydd angen arnynt ac fe fyddwn yn nodi gofynion dietegol wrth cadarnhau eich archeb.

Costiau’r Gweithdy

Mae'r pris yn cynnwys llety, holl fwyd/diod, pryd croesawi wedi'u arlwyo a sesiwn sawna/trochi ar y nos Sadwrn.

​

Ystafell i'w rannu: £110

Ystafell Breifat: £160*

*Mae rhein yn gyfyngiedig felly bwciwch yn gyflym os ydych angen un

​

Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am y cyllid, rydym wrth ein bodd yn cael cynnig gweithdy o'r fath ar bris cyfyngiedig i'n cymuned.

I Archebu Lle

​

Ebostiwch ni ar groundworkprocardiff@gmail.com i fynegi eich diddordeb mewn bwcio lle ar gyfer y gweithdy. ​

 

Yng nghorff yr ebost, rhowch y canlynol:

  • Eich dewis o ystafell breifat neu i'w rannu

  • Unrhyw anghenion mynediad

 

Rydym hefyd yn gofyn i chi cynnwys ymateb byr, heb bwysau i'r cwestiynnau canlynol...

 

  • Sut gall y gweithdy yma wasnaethu chi ar yr adeg yma?

  • Lle mae ‘ansicrwydd’ yn ymddangos yn eich bywyd/gwaith?

  • Sut gall fod efo dawnswyr annibynnol eraill ddod a undod i chi?

​

​

Fe fyddwn yn ymateb cyn gynted a phosib i adael i chi wybod os oes dal lle ar ol, ac i cadarnhau manylion pellach am eich archeb.Mi fydd hwn yn arbennig, rydym yn edrych ymlaen yn arw - ebostiwch i archebu eich lle nawr! Daliwch i ddarllen i wybod mwy am Simon...

Workshop Details

​

When

Friday 4th April to Sunday 6th April

Where 

Trefacwn, St Davids, Haverfordwest SA62 6DP

Workshop Outline

This is currently a very loose idea; the daily plan will shift between being and moving outdoors and indoors across the day, sharing meals and conversations.

 

Friday

Arrival between 3:30 and 5pm, ready for a shared evening welcome meal. We hope to bring a local caterer in to provide this meal for us.

 

Saturday

Daily workshop plan, with an optional evening Sauna and natural pool session.

 

Sunday

Daily workshop plan, leaving around 3pm

 

​​

​

​

 

Food and Meals

Groundwork will be providing the food and drinks for breakfasts, lunch and dinners, cooking together or alongside each other across the weekend. Besides a catered meal on Friday evening.

However, we encourage people to bring anything specific to their needs/desires and we will take dietary requirements upon booking confirmation.

Workshop Costs

The price includes accommodation, all food/drinks, a catered welcome meal and a sauna/plunge pool session on the Saturday night.

 

Shared Room: £110

Private Room: £160*

*(these are limited so be sure to book soon if this is something you will need)

 

Thanks to our Arts Council Wales funding, we are delighted to offer this residential workshop at subsidised prices to our community.

How to Book

 

Please email us at groundworkprocardiff@gmail.com to express your interest in booking on to the workshop.

 

In the body of the email please include the following:

 

  • Your choice of a shared or private room

  • Any access needs

    We ask you to also include a short, non-pressured response to these questions...
     

  • How might this workshop serve you at this time?

  • Where does ‘precarity’ appear in your life/work?

  • How will being together with other independent dancers might give you some solidarity?
     

​

We will respond as soon as possible to let you know if there is still a place available, and confirm further details of your booking. This will be special, we’re really looking forward to it - email us to book your place now!Here’s a little more about Simon…

Am Simon Whitehead

About Simon Whitehead 

Mae Simon Whitehead yn artist symud, yn byw efo’i deulu yng Ngorllewin Gwledig Cymru.

 

Mae ei ymarfer yn fyrfyfyriol, mewn ymateb i’r amgylchiadau y caiff ei hun ynddynt mae'n gwneud gwaith mewn gohebiaeth â thir, defnyddiau a bodau. Mae'n dechrau gyda, ac yn dychwelyd at berthnasedd symudol y corff a'i weithrediad ymhlith casgliad o rymoedd, llifoedd a mater arall. Mae'n wneuthurwr sy'n symud ac mae wedi bod yn ymarfer y gwaith hwn sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd ers dros 30 mlynedd.

 

 

Mae Simon wedi bod yn gartref i Locator ers 1993, gweithdy arbrofol parhaus sy’n ymchwilio i syniadau ecolegol trwy ymarfer symud, wedi’i leoli yn Nhycanol, coetir derw digoes hynafol yn Sir Benfro. Mae’n aelod o Maynard Abercych, cydweithredwr artistiaid rhyngddisgyblaethol sy’n cydweithio ar raglen o weithgaredd dawns ymgysylltiol ym mhentref gwledig Abercych a rhan isaf dyffryn Teifi, gan weithio trwy breswyliadau parhaus, y ddawns bentref, gweithdai, partneriaethau lleol a rhyngwladol. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar brosiect 2 flynedd AFON, yn gwrando ar y ffyrdd y mae bywyd dynol yn cydblethu’n ddwfn â’n systemau afonydd ac yn ystyried beth yw ‘perthynas’ â’r cyrff hyn o ddŵr ar hyn o bryd.

 

Yn ddiweddar cwblhaodd Simon PhD a arweinir gan ymarfer, gan feddwl am ecolegau cyffwrdd a sut mae 'bod mewn cysylltiad' yn ein hatgoffa ein bod yn perthyn i Ddaear sy'n symud. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau ar berfformiad, dawns ac ecoleg ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gydag Oriel Davies, Y Drenewydd ar brosiect ymchwil symudiad a sain rhyngrywogaethol o’r enw Becoming Lichen.

 

Mae hefyd yn therapydd craniosacral sy'n gweithio mewn practis bach gwledig gyda phobl sy'n profi poen.

Simon Whitehead is a movement artist, living with his family in rural west Wales.

 

His practice is improvisatory, in response to the circumstances he finds himself in he makes work in correspondence with land, materials and beings. He begins with, and re-turns to the motile materiality of the body and its agency amongst an assemblage of other forces, flows and matter. He is a maker that moves and has been practicing this relationally-focussed work for over 30 years.

​

Simon has hosted Locator since 1993, an ongoing experimental workshop researching ecological ideas through movement practice, situated in Tycanol, an ancient sessile oak woodland in Pembrokeshire. He is a member of Maynard Abercych, an interdisciplinary artist collective collaborating on a programme of engaged dance activity in the rural village of Abercych and lower Teifi valley, working through ongoing residencies, the village dance, workshops, local and international partnerships. Currently they are working on a 2 year project AFON, listening to the ways that human life is deeply interwoven with our river systems and considering what it is to make ‘kin’ with these bodies of water at this time.
 

Simon has recently completed a practice-led PhD, thinking about ecologies of touch and how 'being in touch’ reminds us that we belong to a moving Earth. He has published a number of books and articles on performance, dance and ecology and is currently working with Oriel Davies, Newtown on an interspecies movement and sound research project called Becoming Lichen.

​

He is also a Craniosacral therapist working in a small rural practice with people experiencing pain.

bottom of page